poniedziałek, 31 grudnia 2012

Dymuniadau Blwyddyn Newydd

Annwyl Bawb,

Mae'r flwyddyn nesaf wedi mynd. Sut oedd hi i chi? Dwi'n gobeithio y cawsoch chi gyfle i gyflawni o leiaf rhan o'ch cynlluniau a breuddwydion. Ac os chawsoch chi ddim, peidwich a phoeni, dwi'n sicr y gwnewch chi lwyddo o yfory ymlaen - dymuniadau gorau i chi i gyd! Cofiwch i gael hwyl a sbri, a mwynhau eich hunain heddiw (ac yfory, yn fwy na thebyg ;))!

Cofion,
Asia

piątek, 28 grudnia 2012

Y Gwyliau

Felly, mae'r Nadolig, gwyl bertaf y flwyddyn yn fy marn i, wedi dod i ben. Dwi'n hapus, gan trodd   allan mai Nadolig orau ers sawl blwydd oedd y 'Dolig honno. Treulais amser braf efo fy nheulu, tu allan fy nhy, a chael cyfle i fwrw'm blinder.

Os nad ydych yn gwybod yn barod, mae pobl yng Ngwlad Pwyl yn cael swper Nadolig arbennig ar noswaith 24ain o Ragfyr. Mae teuluoedd yn ymgasglu o gwmpas un bwrdd (yn ol traddodiad - ar ol gweld seren gyntaf yn y nefoedd), yn rhannu waffer Nadolig gyda phawb, wrth roi dymuniadau iddynt, ac wedyn bwyta. Mae traddodiad cryf yn dweud bod rhaid yna fod deuddeg pryd o fwyd, ac mae'r rhai mwyaf adnabyddus yn cynnwys pysgod gwahanol fel cerpyn a phennog. Hefyd, rydyn yn cael er enghraifft cawl betys, twmplenni gyda bresych a madarch a phasta gyda phabi, mel a chneuon. Mewn theori dydyn ni ddim i fwyta cig yn ystod yr holl ddiwrnod, a pheth arall, dylen ni flasu pob un o brydau o fwyd sydd ar y bwrdd. Ar ol bwyta'r swper, mae pobl yn tueddu cael melysfwyd, yn amlaf cacen gaws, cacen babi (poppy-seed cake) neu dorth sinsir. Felly, mae pawb yn bwyta, siarad efo'i gilydd, ac weithiau canu carolau neu ddarllen dyfyniadau o'r Beibl. Yn y nos (hanner nos neu ynghynt), mae rhai yn mynd i pasterka, sef offeren arbenig sy'n dathlu genedigaeth Iesu Grist. Es innau i offeren ar ddeg o'r gloch yn y nos, efo fy nhaid a nain, fy mam a chwaer, a fy ewythr a modryb (y ddau a ddaeth i ymweld a ni ar ol y swper)

25ain o Ragfyr oedd diwrnod pan aethom i Śrem, tref fychan i'r dde i Boznań, er mwyn ymweld a  gweddill fy nheulu (modryb arall a'i mab). Wnaeth fy nghefndir wsigo gwisg Niclas Sant, ac roedd hynny'n ddoniol, gan ei fod bach yn esgyrnog, felly roedd rhaid iddo ychwanegu clustog fel fol Niclas :)
Canlyniadau'r diwrnod: mwy o fwyta a siarad, a llawer o chwarae gemau cyfrifiadur. Yn y noswaith roedd y tywydd yn berffaith ar gyfer tro bach (+7 gradd Celciws!), roedd y dref yn dawel a gwag, dim ond ninnau'n crwydro o gwmpas. Ac wedyn, fe'n gyrrodd fy nhaid yn ol i Boznań - fe'm atgoffodd y daith fach yma o Gymru, a dychwelyd o Bont yn ystod Hanner Cant: dim goleuadau, dim ond gwynder stripiau ar y ffordd a thywyllwch - teimlad braf iawn, roeddwn yn difaru nad oeddwn yno ar ben fy hun.

Yn ol ym Mhoznań, roedd hi'n rhy hwyr i fynd adref, felly arhosais yn fflat fy nhaid a nain. Roedd y diwrnod nesaf, 26ain o Ragfyr yn ddiwrnod mwyaf diog o'r dri, wnaethon ni ddim ond eistedd a bwyta (!)

Ar y cyfan, amser teulu a gwneud dim byd oedd y Nadolig eleni, ac ar ol yr holl fwyta bydd rhaid i mi golli llawer o bwysau ychwanegol ;)

Cwpl o luniau o gyfnod y Dolig a'r dyddiau cynt ym mis Rhagfyr (pan oedd eira ym Mhoznań):















poniedziałek, 24 grudnia 2012

Nadolig Llawen!

Annwyl Bawb,

Hoffwn ddymuno i chi i gyd Nadolig Llawenaf erioed, dwi'n gobeithio y bydd o'n dawel a llonydd, ac mi gewch chi gyfle i dreulio amser braf gyda'ch teuluoedd. Ac, wrth gwrs, mwynhewch y bwyta!

Cofion gorau,
Asia

niedziela, 9 grudnia 2012

Cyfarfodydd sgwrsio ym Mhoznań

Bydd gynnon ni gyfarfod sgwrsio nesaf ar ddydd Llun hwn. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn hoff iawn (iawn) ohonyn nhw, dyma'r unig gyfle (bron) i mi ei gael yn ystod y flwyddyn i siarad Cymraeg, fel mae'n digwydd. Wrth gwrs, ar wahân i'r gwersi a sgyrsiau ysgrifenedig.

Nid yn unig rydyn ni'n siarad am bynciau 'llosg' y brifysgol a'n bywydau ni, ond hefyd mae gynnon ni siawns i drefnu digwyddiadau a'u trafod nhw. Er enghraifft, bydd Nadolig yr Adran yn digwydd mewn pum niwrnod (ysgrifennaf adroddiad wedyn), ac mae noswaith ffilm nesaf yn yr wythnos ganlynol.

Hefyd, rydyn ni'n trafod pynciau diwylliannol, fel addysg yng Nghymru (y tro olaf ond un), dysgu Pwyleg i'n hathrawon (hwyl a sbri :)), dysgu Cymraeg i bobl eraill (ie! mae un person tu allan i'r Adran eisiau dysgu Cymraeg, mae hynny'n wych, nac ydi?), a siarad am bethau digrif a difrif eraill.

Tybed ar beth byddwn ni'n myfyrio yfory? Roedden ni'n cellweirio mai cwyno bydd y prifbwnc, gan bod pawb yn hoff o wneud hynny. Mi gawn ni weld!

--------------------------------------------------------------

Na, dim cyfarfod y tro yma, mae'r gaeaf go iawn wedi dod, roedd eira'n disgyn drwy'r dydd, a nawr fydd yna ddim digon o bobl yn cyrraedd...

wtorek, 4 grudnia 2012

Bach o gerddoriaeth

Roeddwn yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg (neu Gymreig) am dibyn bach o amser erbyn hyn, felly meddyliais byddai'n neis cael bach o drefn arni, ac o ganlyniad dwi wedi gwneud rhestr o'm hoff ganeuon Cymreig. Dyma beth trodd allan i mi:


1. Fflur Dafydd – Ar ôl heddi’: heb os, dyma fy hoff gân Gymreig am byth! Dwi'n cofio i mi ddysgu ei geiriau ar gof a phoenydio fy nheulu wrth ei chanu drosodd a throsodd!


2. Elin Fflur – Symud Ymlaen: mewn gwirionedd, nid honno a oedd fy hoff gân gan Elin Fflur, ond fel y daeth amser rhagddo, dechreuais ddwli arni. A dwi mor hoff o'r rhan offerynnol ar y diwedd!


3. Cowbois Rhos Botwnnog – Ffarwel i Langyfelach Lon: cân mwyaf anhygoel y band, sy'n fy syfrdanu bob tro byddaf ei chlywed. Mae'n hir, ond dwi ddim yn medru teimlo wyth munud fel wyth munud sydd wedi pasio ar ôl i'r gân orffen (ydy hwnna'n gwneud synnwyr o gwbl?)


4. Texas Radio Band – Swynol: mi glywais y gân hon yn ystod un o wersi Cymraeg llynedd. Doeddwn i ddim wedi ei chlywed o'r blaen, ond does dim rhyfedd pam bod ei theitl fel y mae, mae hi wedi fy swyno yn y fan a'r lle!

 
5. Sen Segur – Oswald: dwi'n hoffi meddwl bod hi'n siwtio fy mywyd yn berffaith, mae ei geiriau yn apelio ataf fi'n isymwybodol, a dwi'n teimlo'r 'bond' arbennig efo'r dyn o'r gân

 
6. Violas – Gwymon: "Sea Shells" oedd y gân gyntaf i mi ei chlywed gan Violas, a thynnodd hi fy sylw mewn eiliad braidd. Ac wedyn, yna ddaeth "Gwymon" (gyda'r un canlyniad), a daeth Violas yn fy hoff fand Cymreig. Jest fel 'ma.


7. Yr Ods – Fel Hyn Am Byth: dwi'n ei hoffi cymaint oherwydd bod hi mor gadarnhaol, a fedraf ddim ond canu ymlaen efo'r Ods bob tro i mi ei chlywed. Mae'n jest hwyl a sbri!
Fel Hyn Am Byth (Myspace)


8. Yucatan – Y Gwacter: dwi'n ffan mawr o gerddoriaeth ôl-roc, felly doedd dim amheuaeth byddaf yn hoffi Yucatan. Mae harddwch eu cerddoriaeth yn cyffwrdd yn fy nghalon, ac mae'r gân yma yn arbennig o arbennig!

 

9. Y Promatics – Bodlon i sibrwd: i mi, Y Promatics oedd un o fandiau mwyaf diddorol a dawnus o ran ddull eu cerddoriaeth, felly bechod nad ydyn nhw'n bodoli bellach! A dyma eu cân orau o ran alawon (dydw i ddim yn siŵr am y geiriau, dwi'n methu deall y cyfan)


10. Gorky’s Zygotic Mynci – Merched yn neud gwallt ei gilydd: doedd gen i ddim syniad yn y byd am y gân hon am lawer o amser, dim ond caneuon o "Patio" a "Barafundle". Ond ar ôl i mi gael ychydig mwy o gynhyrch Gorky's oddi wrth fy ffrind, dyma beth y syrthiais mewn cariad efo hi!

sobota, 1 grudnia 2012

Andrzejki (Diwrnod Sant Andreas) yng Ngwlad Pwyl: traddodiadau

Dwi'n gwybod mai ddoe a oedd yr Wyl, ond efallai byddwch yn cymryd diddordeb mewn dysgu sut byddai Pwyliaidd yn ei dathlu: yn bennaf yn y gorffennol, ond mae rhai o bobl yn wneud hynny o hyd.

Felly, y peth sy'n  mwyaf adnabyddus yng Ngwlad Pwyl ydy arllwys cwyr drwy dwll clo i ddwr oer mewn powlen. Wedyn, ar ol i'r cwyr galedi, byddai pobl yn edrych ar siapau a cheisio darllen eu ffawd. Llawer o hwyl a sbri, yn enwedig i blant!
ffynhonnell: http://gs.uni.opole.pl/wp-content/uploads/2012/11/Lanie-wosku.jpg

Un arfer arall fy mod yn gwybod amdano ydy dweud ffortiwn wrth dynnu croen afalau (neu ffrwythau eraill). Ar ol pilio'r ffrwyth, byddai rhaid i un taflu'r croen dros ysgwyd a gwirio os ydy o wedi gwneud siap unrhyw lythyren. Yn ol yr arfer, dyna lythyren gyntaf enw ei g/chariad dyfodol.

Ac yr un olaf o'r rhain mwyaf amlwg ydy 'ras esgidiau' (f'enw innau): mae merched- sydd eisiau gwybod pa un ohonyn nhw byddai'n priodi'n gyntaf- yn sefyll eu hesgidiau mewn rhes, ac mae'r person sy'n olaf yn symud ei hesgid i ben y rhes, ac wedyn yr olaf ond un ayyb. Ac yn y diwedd, byddai'r ferch y bydd ei hesgid yn cyrraedd y trothwy'n gyntaf, yn priodi cyn pob un arall.

Tybed a oes gan y Gymry unrhyw arferion tebyg?