środa, 26 września 2012

Be dwi'n cofio o Gymru? rhan 2

- cwpanau plastig o gwrw- fel ydych chi'n cofio, roeddwn i yn y fan a'r lle yn ystod cyngerddi Hanner Cant a Gwyl Gwydir. Ac fy mhrif gof ar wahan i'r gerddoriaeth ydy miloedd o gwpanau o gwrw ym mhob man. Oherwydd nad ydw i'n yfed llawer, roedd gweld cymaint o gwpanau gwag yn gorwedd ar y llawr yn dipyn o sioc i mi ;)

- y mor- roeddwn i ar lan y mor yn Aberystwyth llawer o lawer o weithiau, bob tro roeddwn i'n wrth fy modd cerdded o'm fflat i (ychydig tu allan o Aber) i adfeilion y castell, ac wedyn drwy'r Promenad i ochr draw y traeth i'r clogwyn. Ac wedyn yn ol (weithiau ar y bws, dwi'n eithaf diog!). Roeddwn i'n hoffi sbio ar y mor, ar y tonnau, ar ei liwiau amryliw, weithiau glaswyrdd, weithiau llwyd, ac weithiau glas tywyll. Mae pob darnyn o'r mor/ eigion mor brydferth!

- y Llyfrgell Genedlaethol - adeilad diddorol iawn o'r tu mewn a'r tu allan! Cyn i mi ddod i Gymru, darllenais 'Y Llyfrgell', a chael blas ar lefydd ynddi a gerllaw, wedyn roeddwn i'w harchwilio'n raddol yn ystod taith o'i chwmpas a'm hymchwiliadau personol. Lle braf iawn ydy'r Llyfrgell, gydag awyrgylch hamddenol yn y Stafell Ddarllen, ac mae llawer o bobl anhygoel o gyfeillgar yn gweithio yno. Roeddwn i'n mwynhau fy amser yn yr adeilad, a dwi'n siwr byddai'n ei methu!

- Ynys Mon - cefais gip ar yr Ynys tra yng Nghaernarfon ond doeddwn i ddim yn gallu ymweld a hi (peth dwi'n ei ddifaru!). Dwi'n cynllunio archwilio'r ynys pan bydda i'n ol yng Nghymru (cyn gynted a phosib...), yn enwedig Llyn Awel yn ei chanol. Mae'n edrych yn neis!

- bryniau a dringo - roedd y lle lle roeddwn i'n byw yn sefyll ar y bryn (11* o'r un ochr a 16* o'r ochr arall), hefyd un ar y ffordd i'r Llyfrgell. Ar y dechrau roeddwn i'n dringo a'r gwynt yn fy nwrn, ond wedyn BRON a hedfan i fyny :) Ac roedd yna gymaint o bryniau yn yr ardal! Gan i mi wneud llawer o gerdded a dringo, roeddwn i'n gallu bwyta ychydig mwy o felysion. Cymerais y mantais yma ;)

wtorek, 25 września 2012

Be dwi'n cofio o Gymru? rhan 1

- bysiau a'u gyrrwyr - o ran y bysiau: roedden nhw wastad yn hwyr neu ddim mewn gwasaneth. Yn gyffredinnol, roedd y fath beth yn eithaf doniol, yn enwedig pan oedden ni wedi blino llwyr, ac roedd fel trydydd bws allan o wasanaeth. Ac o ran eu gyrrwyr? Maen nhw'n athrylithoedd y ffyrdd! Doeddwn i ddim yn disgwyl y gall un yrru fel pobl rasio ar ffyrdd mor droellog! Pob parch iddyn nhw am hynny! Hefyd, peth anarferol i mi, roedden ni'n cyfarchu ein gilydd bob tro wrth mynd i mewn ac allan, dydyn ni ddim yn gwneud hynny yng Ngwlad Pwyl...

- tywydd gwallgof - gwnaeth y tywydd i finnau deimlo rhyw fath o annwyd ysgafn drwy'r amser, roedd yn annisgwyl codi yn y bore, yn gweld cymylau a theimlo oerni, wedyn gwisgo sawl haen o ddillad, ac wedyn gorfod eu cludo nhw i gyd yn y prynhawn oherwydd tymheredd uchel a llawer o heulwen (neu y ffordd arall rownd). Mae gen i luniau sy'n atgoffa o un o ddiwrnod fel yma- gweodd pry cop gyda glaw arnyn nhw yn y bore a'r wybren glir a machlud gogoneddus yn y noswaith.

- gwyrddni - sonias am hwnnw o'r blaen, dwi'n gwybod, ond gwyrddni ydy un o'm prif cofion o gymru: bryniau gwyrdd ar y ffordd, llawer ohono ym mhobman. Ces i gyfle i ymlacio, gan fy mod yn hoff iawn iawn o natur. Roeddwn i'n gallu anadlu heb broblemau wrth fynd am nifer o droeon - pleser pur!

- dim pla o fosgitos - bron dim mogitos yng Nghymru, mi welais fel tri ohonyn nhw yn fy ystafell yn ystod tri mis! Mae llawer gormod ohonyn nhw yng Ngwlad Pwyl, felly dwi'n cael fy mrathu nifer o weithiau, sy'n hollol annifyr.

- distawrwydd - dwi'n byw mewn dinas fawr yng Ngwlad Pwyl (bron 600 mil o bobl), felly rwan dwi'n clywed ceir yn mynd drwy'r stryd tu allan i'm ty i, a phob math o synau byddarol. 'Nol yng Nghymru roeddwn i'n byw yn Aberystwyth, felly tref braidd, ac mewn gwirionedd ychydig tu hwnt o Aberystwyth. Ac roedd ein hystafell ni'n wynebu gardd. Gallech ddychmygu gwahaniaeth, on'd gallech?

czwartek, 20 września 2012

Ffarwel i Gymru

Iawn, pawb, amser i mi fynd yn ol i Wlad Pwyl (ddydd Sadwrn yn nesau!). Dwi ddim yn fodlon oherwydd hynny, ond dyna sut mae pethau'n mynd...

Diolch i bob un ohonoch chi a oedd yn darllen yr hyn a ysgrifennais i tra yng Nghymru, dwi'n gwerthfawrogi hynny! Mi wna i sgwennu eto mewn cwpl o ddyddiau, ar ol i mi ddod yn ol i'm gwlad innau.

Hwyl fawr i chi i gyd am tro!

poniedziałek, 17 września 2012

Llanrwst a Chlwb Rygbi Nant Conwy, lluniau

Ychydig yn hwyr, dwi'n gwybod, ond gadewch i mi uwchlwytho lluniau o Wyl Gwydir a Llanrwst (cymysgiad o'r cyngherddau a'n crwydro o gwmpas y lle, rhyw fath o luniadur, dwi'n credu :)). Dwi'n gwybod nad ydy eu hansawdd yn rhy dda, ond mwynhewch beth bynnag!

Unwaith eto, digwyddiad ymesin, felly diolch i bawb a oedd yno. Job wych!