czwartek, 30 sierpnia 2012

Caernarfon, ia?

Ar ol imi fwriadu mynd i'r Gogledd, ces i'r fath gyfle ddoe, ac es i i Gaernarfon a'm ffrindiau. Cyn imi fynd, roedd yn rhaid imi wneud ymchwil fach, a dyma beth glywais i: prin iawn gallet glywed Saesneg ar strydoedd; mae yna gymaint o bethau i'w gweld; lle hyfryd dros ben ydy Caernarfon. Dywedodd rhagolygon tywydd y Bib: bydd yna lawer o haul, paid a phoeni!. Ac ar ol i'r drip dyma beth welais i:

-MAE yna gryn dipyn o bobl sy'n siarad Yr Iaith ar strydoedd, mewn siopau (criw hyd yn oed, peth eithaf anarferol yn fy lle innau). Dwi wedi gweld sawl grwp o bobl yn sefyll yn rhywle a siarad a'i gilydd yn y Gymraeg. Hefyd, peth mwyaf annisgwyl, mae cymaint o blant sy'n siarad Cymraeg, hyd yn oed pan y maent ar eu pennau eu hunain! Ac maent yn gorddefnyddio "..., ia?", ond does dim waeth gen i, dwi'n hoff o hwnnw :) Ac mi ges i gyfle i gynnal sgwrs go hir yn siop lyfrau am un o lyfrau hoffwn ei ddarllen un diwrnod, sef 'Twenty Thousand Saints'. Ar ol imi glywed barn merch y siop, credaf mai llyfr teilwng ydy hwn :) Ond yn ol at ieithoedd, dwi wedi clywed gormod o Saesneg yn fy marn i. Efallai doedd gen i ddim digon o lwc?

- Ynglyn a sightseeing (beth ydy'r gair?), wel... Wnes i fwynhau yr hyn a welais, ond, mewn gwirionedd, doedd yna ddim llawer i'w weld. Roeddwn yn hoff o'r castell (gwelwyd o tu allan) a'r Hen Dref a'i hadeiladau, nifer o siopau a ffyrdd cul. Mwynheuais y parc a'r 'traeth' (gan welais i Ynys Mon), ond beth arall sydd? Bydd yn rhaid imi fynd yno eto yn y dyfodol, efo arweinydd y tro yma!

- Ac mae'n rhaid imi ddweud bod rhagolygon y tywydd yn dweud celwyddau. Cawsom ein croesawu gan storm go iawn gyda mellt, taranau, glaw trwm a'r gwynt ofnadwy! Ond yn ffodus, daeth popeth i ben mewn awr ar y mwyaf. Ac roedd gweddill y diwrnod yn eithaf pleserus a heulog (o dro i dro).

Felly, ar y cyfan dwi'n hapus o'r cyfle yma i fynd i Gaernarfon, a hoffwn ymweld a'r lle eto!

A dyma ychydig o luniau fy mod wedi'u tynnu yno.


















czwartek, 16 sierpnia 2012

Taith fach, lluniau

Dwi wedi bod ar daith fach o gwmpas sawl lle diddorol diolch i un o'm cydweithwyr, a gwelais Ystrad Fflur, Y Bont ym Mhontarfynach a'r Mynydd Hyddgen (neu y gors fwyaf Cymru yn fy marn i!). 
Mwynheuais fy hun yn fawr iawn, felly penderfynnais roi ychydig o luniau fan yma.

Pabell binc, binc, binc...

Felly, gan eich bod wedi gweld yn barod, ces i gyfle unigryw i weld a'm llygaid fy hun beth sy'n digwydd yn ystod Gwyl fwyaf Cymru, sef y Steddfod. Dau gyfle, hyd yn oed!

Ac beth ydw i'n ei feddwl? Wel, mae gen i sawl meddwl sydd, weithiau, yn gwrth-ddweud ei gilydd!

Yn gyntaf, mae'n rhaid imi gyfaddef nad ydw i'n hoffi'r lliw pinc. O gwbl. Rydym yn elynion am byth. A phinc ydy lliw y Pafiliwn. Felly, fel gallech ddychmygu, nad oeddwn yn rhy hapus ei weld yn fyw, yn enwedig pan oedd yr haul yn ei wneud yn binc llachar. Ond, yn ffodus, llwyddodd tu mewn i wneud iawn imi am du allan. Dwi wedi gweld ychydig o bethau traddodiadol: dawnsio gwerin (unigolion), canu mewn deuawdau a dwy seremoni bwysicaf yr Eisteddfod, sef Y Fedal Ryddiaeth a Chadeirio. Yn anffodus, doedd yna ddim enillydd eleni wrth ystyried nofelau. Yn ffodus, mae gennym brifardd (sydd, yn hollol annisgwyl, yn berson fy mod yn gweithio ag ef!). Roedd gweld rhywbeth fy mod wedi'i weld ar ffilmiau yn unig cyn hynny yn wneud imi deimlo fel rhan fach ond pwysig o Hanes pur (dychmygwch: 1176-2012, cymaint o flynyddoedd!)

Ac wrth ystyried pethau tu hwnt y Babell... Wel, roeddwn wrth fy modd yno (er gwaethaf y ffaith imi ffeddwl am y cyfan fel ychydig o ffair mwy. 'Nghamgymeriad innau!) Doeddwn ddim yn disgwyl gallai cymdeithasu dod a chymaint o hwyl a sbri! Roeddwn yn gallu siarad wrth ddefnyddio Cymraeg yn unig (yn union fel yn ystod Hanner Cant, ond a mwy o bobl mewn oedran gwahanol), ac roedd pawb mor neis i minnau a'm ffrindiau (yn enwedig wrth glywed am le fy ngeni :)) Des i'n gydnabod a phobl newydd sbon, a ches i gyfle i weld y rhai cyfarwydd imi yn barod (efallai heb enwau fan yma, ond roedd yn braf iawn iawn i'w gweld nhw i gyd!). Hefyd, prynais cryn dipyn o lyfrau diddorol (am Owain G. a seryddiaeth), un albwm (ac archebais un mwy ar ol y Steddfod, ond stori arall ydy hon), a ches i ychydig o eitemau diddorol a defnyddiol wrth imi grwydro o gwmpas y Maes.

A, diolch byth, roedd y tywydd yn hael inni eleni! Dwi ddim yn sicr a fyddai'n bosibl imi fwynhau cymaint yn y glaw trwm neu mewn llaid...

Ac yn y diwedd, fy hoff sgwrs yr Eisteddfod:

- O ba ran o Gymru rydych chi'n dod?
- Gwlad Pwyl

Tybed a allaf ddweud fy mod yn ran o Gymru erbyn hyn...

niedziela, 12 sierpnia 2012

Lluniau'r Eisteddfod, dydd Gwener

 Dim ond lluniau y tro yma hefyd, dwi'n ceisio dal digon o ysbrydoliaeth i ysgrifennu rhywbeth diddorol i chi!