sobota, 30 czerwca 2012

'Bant a fi...'

Dim ond nodyn byr iawn iawn i ddweud: mi'ch welaf chi yng Nghymru yn y prynhawn, dwi'n gadael Poznań mewn pedair awr a chyraedd Lerpwl ar ol dwy awr. Wedyn, rydym yn cael tren i Aberystwyth a... helo Gymru!

Mwynhewch eich diwrnod heddiw, gobeithio bydd o'n braf :)

czwartek, 21 czerwca 2012

Llwyddiant

O, dwi mor falch i ddweud fy mod wedi llwyddo yn fy arholiad Saesneg llafar. Ac arholiad olaf o’r math yma fy mywyd oedd hwn, felly, boddhad dwbl sydd arnaf ar hyn o bryd! (A diolch byth am hyn, doeddwn i ddim yn hoffi arholiadau llafar Saesneg. O gwbl!)

Yn ei ystod, roeddwn yn siarad am unfathiant cenedlaethol, a sut mae pobl dramor yn canfod Gwlad Pwyl a phobl y wlad. Hefyd, ceisiais egluro ym mha ffordd bydd pobl Gwlad Pwyl colli eu unigrywdiaeth wrth iddynt gymryd drosodd patrymau gwledydd eraill ynglŷn a sioeau ar y teledu ac ymddwyn yn gyffredinol. Pwnc nad oeddwn yn hoff iawn ohono, felly es i ar goll a dechrau ailadrodd yr un peth, ond efallai roedd y rhai a oedd yn gwrando arnaf wedi blino llwyr, felly ni sylweddolon nhw. A pheth pwysicaf ydy’r ffaith imi lwyddo. Diolch i bobl garedig y comisiwn!

Rŵan, yr unig peth bydd yn rhaid imi ei wneud ydy dysgu’n galed ar gyfer Astudiaethau Ewropeaidd, mae gen i lawer o bynciau gwahanol i wybod amdanynt, a dim ond cwpl o ddyddiau i gaffael gwybodaeth hanfodol. A pe llwyddwn yn yr arholiad yma hefyd, gallwn aros yng Nghymru am dri mis heb broblem. (Cyffro!)

Diolch i bawb a oedd yn groesi eu bysedd, mae arnaf un i chi i gyd, yn enwedig pe byddech mor garedig i wneud hyn unwaith eto ddydd Mercher!

sobota, 16 czerwca 2012

Arholiad & Hwyl a Sbri

Da iawn yn wir, llwyddais fynd drwy un arholiad arall, sef: Gwyddeleg! Mewn gwirionedd, roeddwn yn mwynhau fy hun wrth ysgrifennu, doedd o ddim yn rhy anodd (peth da!). Ond, i ddweud y gwir, rodd yna lawer i ddysgu: penodau o dri llyfr (deg ar hugain ohonynt!), disgrifiad un o agweddau oddi lyfr “Caisleáin Óir” (Castell Aur) gan Séamus Ó Griana ac un peth am hanes Iwerddon neu un gan Wyddeleg. Bydd yna bosibilrwydd inni gael 400 pwynt (eithaf llawer!). Rŵan dwi’n disgwyl fy arholiad Saesneg llafar (a dwi’n ei ofni dros ben llestri!); ar ôl imi gael fy nghyfweliad, byddaf yn gwybod fy holl ganlyniadau Saesneg. [O, plîs... J]

Ar ôl yr arholiad, roedd gennym barti bach er mwyn inni gael cyfle i ffarwelio dau o’m hathrawon: ein hathro Gwyddeleg ac athrawes Gaeleg yr Alban. Rydym yn gwneud hyn bron â phob blwyddyn, ac mae hyn yn eithaf rhwystredig- rwyt ti’n dechrau hoffi rhywun ac mae o/hi’n penderfynu mynd. Ie, beth bynnag: rydym wedi paratoi crysau-T arbennig iddynt, y rhai â argraffiadau doniol neu sy’n awgrymu pethau. Llynedd, fel enghraifft, cafodd dau athro crysau â ffrwchnedd (-i? –au?) ac isdeitlau (pe gallwn ddefnyddio’r gair hwn yn y cyd-destun yma) “To jest ffrwchnedd, tej” (“Dyma ffrwchnedd”,  a defnyddir ‘gair’ “tej” gan bobl Poznań yn unig).

Roeddem yn gwylio gêm Sweden yn erbyn Lloegr hefyd, ac roeddem i gyd yn cefnogi Sweden, felly trueni nad enillon nhw... Roeddent mor agos! Ond rŵan byddem i gyd yn cefnogi Gwlad Pwyl, maen nhw’n chwarae yn erbyn Gweriniaeth Tsiec heno, ac bydd yn rhaid iddynt ennill er mwyn symud ymlaen. Felly croeswch eich bysedd!

wtorek, 12 czerwca 2012

Arholiadau, diwrnod dau


Iawn, dwi’n dal i fyw ar ôl y rhan ramadegol, diolch byth! A beth gallaf ei ddweud? Pan oeddwn yn ysgrifennu, meddyliais: ‘pa mor hawdd! Pam?’ Ac yn wir, doeddwn i ddim yn disgwyl byddwn yn gallu mynd trwy’r holl arholiad mor gyflym! Yn gyffredinol, roeddem i newid strwythurau brawddegau, meddwl am eiriau, cywiro gramadeg ayyb. Hwyl a sbri J Ond wedyn, gwnes i gamgymeriad o’i drafod â’m ffrindiau. A dwi wedi darganfod bod gennym lawer o atebion gwahanol, felly dwi ddim yn sicr am iddo fod yn hawdd bellach, dwi wedi dechrau meddwl am holl gamgymeriadau chwerthinllyd fy mod wedi’u gwneud. Dwi ddim yn gallu helpu fy hun!

Ond beth bynnag, dwi’n nerfus cyn dydd Mercher, dwi’n credu mai y diwrnod hwn bydd gen i fy arholiad llafar. Ac mae pob un ohonynt yn hunllef arteithiol imi, dwi’n jest methu trafod pethau yn y Saesneg! Ond gawn ni weld sut mae o, efallai bydd pawb a fydd yn gwrando amdanaf yn ddigon garedig i gael imi lwyddo, pwy a ŵyr? Peidiwch ag anghofio am groesu eich bysedd unwaith eto!

poniedziałek, 11 czerwca 2012

Arholiadau, dwirnod un


Da iawn yn wir, mae’r diwrnod cyntaf arholiadau wedi dod i ben, roeddem i ysgrifennu traethawd heddiw, ac roedd yna ddewis rhwng dau opsiwn: un dadleugar (argumentative?) ac un esboniadol (expository?). Teitl yr opsiwn cyntaf oedd “Dylai gwledydd y gorllewin ofni ehangu dylanwadau Tsieineaidd ynglŷn a gwleidyddiaeth a economi?”, ac yr ail opsiwn: “Beth gallai llywodraeth wneud er mwyn rhoi cymorth i rieni wrth fagu plant?” Oherwydd doeddwn i ddim yn ysgrifennu traethodau esboniadol ers tua dwy flynedd, penderfynais am Tsieina. Fel efallai rydych yn cofio, dwi wedi sôn am fy mhroblemau wrth greu pethau yn y Saesneg eleni, ond diflannon nhw y tro yma! Creais gynllun ac wedyn ysgrifennu draethawd o fewn tua awr a hanner, felly gwyrth a ddigwyddodd? Bod yn onest, dwi’n gobeithio nad ydy hyn yn golygu fy mod wedi creu rhywbeth gwarthus, mae’n ymddangos iddo fod yn rhy hawdd, onid ydy? Rhag ofn, fyddaf ddim yn disgrifio beth ysgrifennais amdano, mae'n well gen i aros, gobeithio’r gorau a pheidio a phoeni!

Beth bynnag, dwi’n fwy nerfus o achos yfory, mae rhan ramadegol yn aros amdanaf... Yn y cyfamser, dwi’n ceisio edrych ar fy llyfrau gramadeg ac ymarfer strwythurau mwyaf cymhleth. Felly: peidiwch ag anghofio i groesi eich bysedd yfory! A diolch ymlaen llaw J