środa, 28 marca 2012

Poznań drachefn

Wps, dwi wedi anghofio am hyn yn llwyr: yr ail ran o ddogfen am Boznań ar gael yn y fan yma:

Sianel62 - Cymry Oddi Cartre' - Gwlad Pwyl (Rhan 2)

Mae'r rhan lle bydden ninnau yn siarad mwy yn nesáu, gochelwch!

wtorek, 27 marca 2012

"Adolygiad"?


I ddechrau, gadewch imi ddweud nad ydwi’n gallu ysgrifennu adolygiadau, ni roddwyd y ddawn o wneud hyn imi. Felly, byddwn yn anelu at greu rhywbeth o leiaf tebyg i adolygiadau cyffredin (peth anodd i’w wneud!) a... wel, gawn ni weld beth fydd y canlyniad.

Iawn, dwi newydd orffen darllen “Y Llyfrgell” gan Fflur Dafydd, un o lyfrau pwysig yng Nghymru ar hyn o bryd. Cafodd Wobr Goffa Daniel Owen yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol (beth ddigwyddodd i’w weld yn y fan yma: 149. Gwobr Goffa Daniel Owen) yn 2009, llawer o ganmoliaeth, bron â 4000 o gopïau’r llyfr a chafodd eu gwerthu; mewn gair: llwyddiant (i safonau Cymru), dwi’n credu!

Ac yn fy marn i, er nad ydwi’n gwybod dim byd am lyfrau Cymraeg (neu Gymreig) eraill o’r tymor diweddaraf, mae yna le i ganmoli ei llyfr hi a haeddodd Fflur Dafydd ei hun y wobr soniais amdani. Mae hi’n gwneud cymaint i ddiwylliant Cymru: cerddores wych ydy hi, mae hi’n ysgrifennu (llyfrau: cafodd hi sawl gwobr erbyn hyn ac dwi’n gobeithio bydd yna fwy ohonynt yn y dyfoddol; erthyglau ar gyfer papurau; adolygiadau), dwi wedi clywed ei bod hi’n cyfrannu at orsafoedd radio. Mae’n rhaid iddi fod yn brysur! Iawn, digon amdani ar hyn o bryd, gadewch imi ddychwelyd at ei llyfr.

Felly, llyfr sy’n disgrifio dyfodol Cymru ydy “Y Llyfrgell”. Mae popeth yn digwydd yn 2020 ac mae llywodraethau wedi cael gwared o lyfrau, dim ond e-darllenwyr sydd ar gael bellach. Mae popeth yn digwydd rhwng pedwar mur o’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae yna bedwar o brif gymeriadau: efeillion Ana a Nan, Dan y porthor, ac Eben, adolygwr, ac mae y merched a Dan ymhlith â gweithwyr y Llyfrgell.

O ran Eben, mae ef ei hun a’r merched yn meddwl roedd ei adolygiadau cas wedi gwneud mam Ana a Nan llad ei hun. Rŵan, cafodd o ganiatâd i fynd drwy ddyddiaduron Elena er mwyn ysgrifennu ei bywgraffiad. Mae o'n credu bydd y modd hwn yn rhyw fath o benyd iddo. Fodd bynnag, bydd y diwrnod yn eithaf ddiddorol iddo wrth ei eistedd yng nghell cof Elena Wdig.
Dydy Dan, y porthor, ddim yn hapus oherwydd ei waith. Mae o’n meddwl fod o’n ddiflas dros ben a nad oes neb sy'n gweithio yn y Llyfrgell yn deilwng o’i barch. Felly, gan ei fod o’n eithaf medrus mewn cyfrifiaduron a chan fod Yr Archborthor, ei fos, wedi mynd i Gaerdydd, mae o’n penderfynnu i ddodi ffug lun ohono yn gweithio yn lle llun camerau gwir. Mae hyn o fantais i Ana a Nan a bydd eisiau mynd ati i gwblhau eu cynllun maleisus yr oeddent yn meddwl amdano ers misoedd. Dwi ddim eisiau sbwylio eich hwyl dyfodol, felly fyddwn ddim yn adrodd plot i gyd, ond gallech fod yn siŵr bydd yna gyffro, saethu, llyfrau go iawn (er nad oeddent yn bodoli bellach- mewn theori...), cuddfannau’r Llyfrgell, ychydig o wallgofrwydd, llawer o ddirgelion: popeth!

ffynhonnell: http://www.bbc.co.uk/cymru/cylchgrawn/img/llyfrau/446x251/y-llyfrgell.jpg 

Mae’n rhaid imi ddweud roedd y diwedd yn annisgwyl a chlyfar iawn, llongyfarchiadau am hwn, pan sylweddolais beth fydd yn digwydd, roeddwn yn llawn edmygedd (waw mawr, wir i chi!) Ond dwi’n credu bydd rhaid i chi ei darllen am eich pennau eich hunain, mae’n werth gwneud hynny!








środa, 21 marca 2012

Dim byd arbennig

Iawn, mae'r gwanwyn wedi dod yn swyddogol erbyn heddiw. Ond dydy'r tywydd ddim yn ardderchog fel roedd yn ystod y cwpl o ddyddiau diwethaf. Mae'n eithaf oer tu allan! Wel, o leiaf dydy hi ddim yn bwrw glaw (neu eira).

Mae 'na draddodiad yng Ngwlad Pwyl ar gyfer heddiw, sef diwrnod cyntaf y gwanwyn ac mae llawer o ddisgyblion yn hoff iawn ohono. Yn y bôn, maen nhw i chwarae triwant. Tybed os oes ‘na unrhyw beth tebyg yng ngwledydd eraill. Dwi erioed wedi meddwl am hyn o’r blaen. Bydd yn ddiddorol meddwl bod ‘na gytundeb cudd cyffredin gan bobl ifanc ac maen nhw i gyd yn methu ddod i’w hysgolion pan ddaw’r diwrnod arbennig hwn. Wel, dechreuais meddwl amdana innau, dwi erioed wedi chwarae triwant pan oeddwn yn ysgol! Mae’n eithaf rhyfedd, onid ydy? Dylai pethau fel ‘ma fod yn normal… Beth bynnag, dydy chwarae triwant ddim yn yr peth rŵan, does dim ots os bydd myfyriwr/ myfyrwraig yn mynychu gwersi neu beidio. Mwy neu lai, o leiaf.

Iawn, digon o bethau triwant. Tybed sut i ddathlu dyfodiad y gwanwyn a does gen i ddim syniad da. Efallai gallwn feddwl am rywbeth arbennig ar ôl fy ngwers Wyddeleg heddiw? Gallent fod yn ysbrydoledig!

Hwyl fawr i bawb, ac mwynhewch y diwrnod hwn!


__________________________________________________________________________

Ie, jest fel roeddwn yn disgwyl: daw syniadau gorau yn ystod gwersi Wyddeleg: aeth fy ffrind a finnau i far llysfwytaol ac yfon ni goctel ffrwythaidd er mwyn dathlu'r gwanwyn. Ffordd dda iawn, yn fy marn i :)

poniedziałek, 19 marca 2012

Sut i ddod yn enwog?

Dim nodyn go iawn y tro 'ma, dim ond dolen i ran gyntaf y ffilm a wnaethpwyd gan fy athrawon Cymraeg  (diolch iddynt am waith caled!). Fel soniais yn ddiweddar, ffilm am Boznań ac ein hadran ydy hon. Roeddem yn edrych arni yn ystod ein gwers heddiw. Roedd yn dda iawn! Yn ddoniol. Yn hwylius. A bod yn onest, does gen i ddim digon o eirfa i'w disgrifio, fy ymddiheuriadau :) Efallai bydd yn well i chi ei gweld ar eich pennau eich hunain.

Ffilm i'w gweld yn y fan 'ma:
Sianel62: Cymry Oddi Gartre - Gwlad Pwyl (Rhan 1)

Mwynhewch!

niedziela, 18 marca 2012

Unwaith


Oherwydd, fel dywedais o’r blaen, roedd ‘na Seachtain na Geilge ym Mhoznań, roedd gen i gyfle i wylio ar ffilm Wyddelig â theitl Once, Unwaith. Am ddim! Ac dwi mor hapus rydwi wedi ei weld… Stori ramant ydy hon, ond nid un nodweddiadol. Wrth gwrs, mae bachgen (o Iwerddon, Glen Hansard, y prif leisydd o un o fandiau roc Gwyddelig, The Frames. Dwi'n edmygu ei lais a mynegiant) yn cyfarfod â merch (Markéta Irglová o Weriniaeth Tsiec) ac maen nhw’n disgyn mewn cariad efo'i gilydd a dechrau creu cerddoriaeth. Cerddoriaeth sydd wedi dwyn fy nghalon, a bod yn onest, yn enwedig Falling Slowly, Yn Disgyn yn Araf. Dwi’n credu enillodd y gân hon Gwobr yr Academi (Oscar) a nid oes ryfedd, wir i chi! Un o’m caethinebau i newydd ydy hi ar hyn o bryd, a gadewch imi ei rhannu, dwi’n gobeithio y byddech ei mwynhau hefyd. Neu rydych ei mwynhau yn barod! Ond, i ddod yn ôl i’r ffilm, wel, beth galla i’w ddweud? Dwi’n hoff o straeon cariad platonaidd achos bod nhw’n ymddangos yn bur a gwir imi. Ac er gwaethaf doedd ‘na ddim happy ending fel y bydd pawb yn ei ddisgwyl, ac roedd teimladau'r prif gymeriadau ychydig yn drwsgl a lletchwith, apeliodd modd y stori imi. Hoffwn ei weld eto, cyn gynted â phosibl… Dwi'n credu byddai'r syniad o biau fy nghopi fy hun yn un da!

Falling Slowly i'w chlywed:


piątek, 16 marca 2012

Gwanwyn!

'Mae'r gwanwyn wedi dod i Boznań heddiw! Roedd y diwrnod hwn mor braf, roedd yn gynnes, heulog a di-wynt.

Ac, wrth gwrs, roedd tagfeydd ymhob man o achos hynny! Dwi ddim yn deall: pam y byddai pobl  yn cychwyn eu ceir yn ystod dyddiau mor hyfryd? Dylent fwynhau eu hunain yn cerdded, yn fy marn i… Neu yn rhedeg. Neu yn mynd efo’u cŵn am dro. Neu unrhywbeth i osgoi ceir drewllyd a swnllyd. Ond na, mae’n well ganddynt yrru a chymryd lle ar y ffyrdd. Fel y canlyniad, mae pobl nad oes car ganddynt (fi, fel enghraifft) yn gorfod naill ai’n aros am fysiau sy’n arfer dod yn hwyr neu aros arnynt tra bod nhw’n gaeth mewn ciwiau enfawr. Llongyfarchiadau, bawb!

Ond, i symud oddi wrth fy nghwyno (cofiwch y gwanwyn!), hoffwn sonio am fy hoff le ym Mhoznań i'w fynd pan ddaw’r gwanwyn, sef Park Sołacki neu Sołacz. Parc arbennig iawn imi ydy hwn, ac roeddwn yn arfer mynd yno bron â phob dydd pan oeddwn yn byw yn agos iawn iddo. Mae ‘na lawer o leoedd prydferth: llyn yn ei ganol, pontydd, gwyrddni ymhob man… Dwi’n ei gymeradwyo’n gryf iawn! Gad imi ddangos cwpl o luniau y parc ‘ma, efallai byddech yn fodlon ymweld a fo un diwrnod? 
fynhonnell: http://d.wiadomosci24.pl/g2/00/67/79/28056_1179350062_f852_p.jpeg
fynhonnell: http://dn3xvn5nu3tgm.cloudfront.net/fotki/27/41/89/b/1181333850442.jpg
fynhonnell: http://gfx.mmka.pl/newsph/313750/401207.3.jpg


Arbennig o arbennig yn wir!
Hwyl.

czwartek, 15 marca 2012

Gwymon, geifr, môr-ladron a merched eiddig, neu sut mae'r Adran Geltaidd yn dathlu Seachtain na Gaeilge

Rydym i gyd yn ddyfeisgar iawn, mae'n rhaid imi ddweud. Mae Seachtain na Gaeilge- Wythnos y Wyddeleg- wedi dod i Boznań, ac roeddem i gymryd rhan. Felly, darparodd pob grŵp un cyflwyniad ar un gân yn y Wyddeleg. Roeddem eu cyflwyno echddoe, yn un o dafarnau ym Mhoznań (dim hyrwyddo yn y fan 'ma ;) [ac bydd pawb yn gwybod beth bynnag]) a ddoe ym mhrifysgol.

Ac wel... Dwi'n eithaf rhwystredig ar ôl echddoe! Yn gyntaf, roedd ein cyflwyniadau yn fwy nag awr a hanner (!) yn hwyr achos roedd yn rhaid i'r dynion a oedd yn gyfrifol am sŵn a delwedd drefnu popeth. Ond, mewn gwirionedd, doedden nhw ddim yn ymddangos i roi digon o sylw i'w gwaith. Roedd eu ffonau symudol yn fwy pwysig iddynt. Gwych. Hyd yn oed yn waeth, dechreuon nhw efo carioci yn lle o'n cyflwyniadau ni! A roedd un o ddynion technegol yn canu 'Hallelujah'... Pe fydden ni ddim yn teimlo mor dig erbyn hyn, byddai hyn yn ddoniol! 
Ond, o'r diwedd, llwyddon ni lawnsio ein gwaith.

Gwnaeth Y Flwyddyn Gyntaf gyflwyniad am y gân Óró, Sé do Bheatha (A)bhaile (sy'n cyfieithu i rywbeth fel "croeso 'nôl gartref"). Roedd yn neis i ddysgu am hanes y gân. Yn gyntaf, roedd hi'n disgrifio Bonnie Prince Charlie, Tywysog Siarl o'r ddeunawfed ganrif  a oedd yn ceisio adennill gorsedd Lloegr. Yn ofer. Wedyn, dechreuodd pobl ei chanu ynglyn ag un o fôr-ladron (dynes!), Gráinne Mhaol (moel- roedd hi wedi torri ei gwallt ei hun!). Unwaith, gwahoddwyd hi gan y Frenhines, a phan oedd hi yno, tisianodd a chafodd hances poced oddi wrth Elisabeth. Ar ôl iddi ei defnyddio, fe'i thaflodd i'r tân. Roedd Elisabeth yn flin, ond esboniodd Gráinne y byddai'n anghwrtais i'w rhoi yn ôl. Wel, ond beth pe byddai'r Frenhines yn hoff iawn o'i hances? Pa drychineb iddi, dychmygwch!

Roedd cyflwyniad Yr Ail Flwyddyn am afr wallgof a ymosododd ar un ffermwr a oedd yn mynd i'w waith. Dechreuodd y dyn ei daith o'i gartref; roedd y diwrnod yn braf a heulog a'r dyn yn eithaf hapus. Doedd o ddim yn disgwyl hen eifr gwallgof ar ei ffordd, ond daeth ar draws un, ymgnawdoliad drygioni go iawn! Doedd gan yr afr dim parch i awdurdodau hefyd, rhwygodd trowsus plismon yn ddarnau ac o'i hachos, dywedodd person yr eglwys lleol mai y Diawl ei hunan a oedd yn mynd ar gefn yr afr. Stori arswyd...

Gwnaeth Y Drydedd Flwyddyn eu cyflwyniad am gân o'r teitl Bean Pháidin, 'Gwraig Padrig'. Yn y bôn, mae’r gân am ddynes ofnadwy o genfigennus o achos dyn ei bod hi’n ei garu. Yn anffodus iddi, mae ganddo wraig. Ac maen nhw’n caru ei gilydd yn fawr iawn. Felly, mae’r ddynes yn troi’n ddrygionus ac yn meddwl am bethau drwg a allai ddigwydd i’r ddynes arall. Siŵr o fod, mae esgyrn wedi eu torri yn rhywbeth braf iawn yn ei meddwl! Serch hynny, dydy hi ddim yn rhy fodlon i ddisgrifio pob peth a hoffai wneud i’w hail. Mae hi’n rhy gwrtais, dwi’n credu… Bechod!

Ac, o’r diwedd, ein cyflwyniad ninnau! Roeddem wedi penderfynnu i siarad am Dúlamán, cân Wyddeleg wych am wymon a oedd yn cael ei gasglu ar lan y môr yn Iwerddon. Yn y gân, roedd ‘na ddau deulu (achos roedd ‘na ddau fath o wymon - defnyddiwyd y math cyntaf i’w fwyta, ac yr ail fath er mwyn llifo dillad) a oedd yn elyn i’w gilydd. Un diwrnod, syrthiodd bachgen o’r ail deulu mewn cariad efo merch o’r teulu cyntaf ond deodd gweddill ei theulu ddim yn hapus oherwydd hynny, roedd y bachgen yn ymddangos yn rhy dlawd iddynt. Ond doedd dim ots ganddo yntau, a dywedodd wrth ei dad-yng-nghyfraith dyfodol os ni fydd yn rhoi bendith i’w perthynas, bydd yn rhaid iddo ei herwgipio. Roedd gennym fersiwn gwych i’w ddangos, sef Dúlamán gan Celtic Woman. Mae’n fywiog iawn, ond yn eithaf anodd i’w ganu, gan bod gan un o brifleisydd llais uchel iawn!

I gloi, roedd y canu yn hwylus a, dwi’n credu, llwyddiannus. Roedd gan grwpiau eraill animeiddiadau gwych a wnaethpwyd gan TG4,  teledu Gwyddeleg. Does ‘na ddim animeiddiad ar gyfer Dúlaman. Yn anffodus, achos hoffwn weld beth bydden nhw’n meddwl amdano!
A dwi’n gobeithio roedd pawb yn mwynhau gwneud cyflwyniadau a’u dangos. A’r canu, wrth gwrs!

Diolch am eich sylw, hwyl fawr!

piątek, 9 marca 2012

Ar ôl heddiw

Dwi'n dechrau hoffi siarad yn gyhoeddus, wir i chi! Ond dwi'n teimlo'n fwy hunan-hyderus pan rydwi mewn grŵp, does dim rhaid imi fod mor nerfus...
Felly, fel sonias o'r blaen, roedden ni'n recordio ein hareithion ar gyfer y dogfen am Boznań a myfyrwyr yr Adran Geltaidd. Pan ofynwyd beth ydy pethau pwysig am yr iaith ac ei dysgu, soniai pawb am bethau sy'n bwysig imi hefyd. Dwi'n credu mod i wedi ysgrifennu am bron â phopeth yn fy nodyn diweddarach.


Ar ôl inni ddisgrifio ein profiadau personnol (er gwaethaf anawsterau technegol), gwnaethon ni ddechrau trafod pynciau amrywiol mewn cysylltiad â Chymru: ei cherddoriaeth, llenyddiaeth, hanes ac yn y blaen. Wrth gwrs, roeddwn yn siarad yn wirion ac yn cyfarch hapbobl. Da iawn, Asia....... Ond, ar y llaw arall, efallai byddai bois o Sen Segur neu Elin Fflur yn edrych ar y dogfen? Golygfa ddiddorol! Yn anffodus, fodd bynnag, anghofias am ddweud 'helo' wrth Fflur Dafydd, pa gywilydd! Felly, cofion cynnes, Mrs. Dafydd!


Iawn 'te, dwi'n edrych ymlaen i weld y ffilm golygedig!


Hwyl!
[Gad imi orffen efo Ff. D.]


czwartek, 8 marca 2012

Noswaith Iau, gartref...

Dwi'n cael fy recordio eto, yfory! Pwy a fyddai'n disgwyl byddaf mor fodlon i wneud areithiau cyhoeddus yn wirfoddol? Ond dwi'n credu mod i wedi penderfynu oherwydd hoffwn ddweud pa mor arbennig ydy'r iaith imi ar hyn o bryd.

Dwi'n cofio fy nheimladau ar ôl dosbarthau Cymraeg cyntaf ym mhrifysgol. Dwi'n cofio ein gwrando ar y gân 'International Velvet' gan Catatonia. Es i ar goll ar unwaith ar ôl 'Deffrwch Cymru..." (dau air cyntaf)! Mae'n swnio'n eithaf doniol rŵan, ond doeddwn ddim yn chwerthin bryd hynny. (Wel, efallai ychydig.) Hefyd, dwi'n cofio dysgu ymadroddion Cymraeg fel: Allech chi ddweud hyn eto? neu Allech chi siarad yn fwy araf? Pan glywais fy athro eu ynganu ar y tro cyntaf, roeddwn meddwl ei fod o'n tagu: gormod o 'ch', 'll' ac yn y blaen. Dywedodd un o'm ffrindiau mai iaith y bwrdd ydy'r Gymraeg: mae pobl yn gwneud synau fel 'ma wrth fwyta! Wel, dwi'n amau roeddwn defnyddio ymadroddion a enwyd eisoes yn ystod y flwyddyn gyntaf o gwbl beth bynnag. Ond maen nhw'n brydferth, wrth gwrs. Wedyn, pan oedd fy Nghymraeg yn datblygu, roeddwn yn cael llawer o hwyl wrth geisio cynnwys pethau roeddwn wedi'u dysgu i mewn brawddegau hirach (roedden nhw'n hir yn ystod y flwyddyn gyntaf!), fel Allet ti warchod fy nionyd?


Yn ystod yr ail flwyddyn, roeddwn yn hoff iawn o arddul uwch a ffurfiau fel gwnaf,  rydym neu iddynt. Dwi'n dal eu defnyddio, ond roedden nhw'n rhywbeth newydd sbon imi bryd hynny. Ar wahân i'r iaith, fod bynnag, clywais un o'm hoff artistiaid Cymreig ar y tro cyntaf yn ystod yr ail flwyddyn, sef Elin Fflur. Boddi oedd fy mhrofiad Elin cyntaf ac... wel, dwi'n ei hoffi tan heddiw, mae ei cherddoriaeth yn arbennig fawr iawn imi.

Roedd y drydedd flwyddyn yn anturiaeth hefyd. Roeddwn yn dechrau siarad efo pobl (neu, o leiaf, yn cesio siarad), dechreuais wrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn rheolaidd. Des o hyd i sawl band diddorol iawn, ond mae'n rhaid imi ddweud bod hyn yn andros o anodd i ddod o hyd i'w caneuon ar y We! Oni bai i'm athrawon a phobl sy'n rhannu cerddoriaeth ar lein, fydd 'na ddim modd imi wybod amdanynt! Dwi'n gobeithio bydd 'na gyfle i bandiau Cymreig ddod yn fwy adnabyddadwy o gwmpas y byd.

Yn y flwyddyn academaidd hon, dechreuais ddarllen llenyddiaeth yn yr iaith Gymraeg. Wel, mae'n rhaid imi ddweud bod synnwyr digrifwch arbennig gan bobl o Gymru. Ond dwi'n ei hoffi! Fel enghraifft, pwy arall ond Angharad Tomos a fyddai'n falch i ysgrifennu am ffrindiau sy'n cario eu cyfaill marw i gopa yr Wyddfa ar elorwely? Beth bynnag, mae'r Gymraeg yn gwneud llenyddiaeth swnio fel cerddoriaeth yn hytrach na llenyddiaeth ei hunan! Hefyd, dwi'n cael cyfle i siarad yn fwy aml a gobeithio gallwn ddod yn siaradwraig rhugl (neu, o leiaf, yn eithaf rhugl) wrth i amser fynd ymlaen ac imi ymarfer...

Wel, dwi wedi rhoi disgrifiad byr o'm profiadau â'r iaith a'i dysgu. Dwi'n credu mae hyn yn ddigon ar hyn o bryd, ond nid y diwedd, siŵr o fod!

Hwyl am y tro.

wtorek, 6 marca 2012

Ar ôl fy argyfwng bach neithiwr

Mae popeth yn iawn rŵan. Dwi'n teimlo'n llawer gwell a rydwi'n barod i ysgrifennu bellach.

Diolch i Celtic Woman, band o Iwerddon. Ces i un o'u halbymau oddi wrth un o'm ffrindiau a dwi'n gaeth ar hyn o bryd, yn gwrando ar bob cân llawer a llawer o weithiau. Dwi ddim yn siŵr sut i ddisgrifio eu cerddoriaeth, mae hi mor... epig. Ie, dyma'r gair. Pan rydwi'n gwrando ar y caneuon, dwi'n teimlo fel pe byddwn yn rhan o ryw fath o anturiaeth! 

Dwi'n credu bydd y gerddoriaeth fel hon yn berffaith fel trac sain ar gyfer ffilm antur, efo pobl â phwerau gorywchnaturiol, llefydd syfrdanol o brydferth a chreaduriaid anarferol. Mae'n hawdd imi ddychmygu golygfeydd o bobl yn ymladd neu ymlid â'i gilydd, efo cerddoriaeth Celtic Woman yn y cefndir. Fel enghraifft:



Onid ydy hyn yn addas ar gyfer y math hwn o bethau?

Iawn, digon ar hyn o bryd, mae pethau rydwi'n eu hysgrifennu wedi dechrau colli synnwyr. Ond, ar y llaw arall, dwi'n hoff o anhrefn. Felly, efallai dylwn ddefnyddio llif yr ymwybod y tro nesaf? Gawn ni weld.

Diolch am eich sylw, annwyl bawb.

Dim teitl y tro hwn...

... gan does gen i ddim digon o ysbrydoliaeth heno. Felly, achos nad ydwi eisiau siarad lol, dim ond nôd byr iawn efo fy ngobaith daw'r ysbrydoliaeth hon yn fuan ac un o ganeuon addas iawn ar fy ngyfer ar hyn o bryd:




Pob hwyl ichi!

piątek, 2 marca 2012

Ar ôl Dewi

Fel oeddwn yn disgwyl, roedd dathliadau Gŵyl Dewi Sant yn ardderchog yma. Unwaith eto.

Gadewch imi roi disgrifiad byr o neithiwr. Felly, ymgasglodd pobl yn y dafarn (roedd 'na'n eithaf llawer ohonynt a ddweud y gwir!) ac, yn fuan (un awr yn hwyrach) dechreuodd y ffilm.

Dwi ddim yn siŵr os soniais amdano yn barod, felly mewn cwpl o eiriau: ffilm ar gyfer pen-blwydd hanner canfed Cymdeithas yr Iaith ydy hi. Roedd pobl yng Nghymru i ddweud, mewn tua un munud, beth mae bod yn Gymro/Gymraes Cymraeg yn golygu iddynt. Ac roedd y ffilm mor dda yn fy marn i... Roedd rhai o'r ffilmiau byr yn ddoniol iawn, fel enghraifft, fy hoff ran, pan oedd merch fach iawn yn canu'r Anthem Genedlaethol Cymru (yn wych, roedd hi'n gwybod geiriau i gyd!), a rhai yn deimladwy, fel enghraifft pan ddangosodd y ddynes a oedd yn disgwyl babi ei bol mawr efo llythyrennau arno a oedd yn dweud hoffai babi cael ei eni fel Cymro/Cymraes. Ac roedd ffilm ein hathrawes yno hefyd, efo lluniau o gyfarfodau pobl o'm adran (dwi ar y lluniau hyn!) ac ei meddyliau am Boznań a'r Adran. Yn gyffredinol, roeddwn yn mwynhau'r ffilm 'ma yn fawr iawn a dwi hyd yn oed yn fwy siŵr bydd yn rhaid imi ymweld â Chymru un diwrnod!

Wedyn, roedd ein hathrawon yn recordio cyfweliadau efo pobl a chymerais innau ran. Dwi ddim yn profound orator (dyfyniad o'r ffilm) felly ddywedais ddim ond un frawddeg fyr, a dwi'n edrych yn ofnus ar y record (roeddwn yn ofnus iawn!). Ond, er gwaethaf hynny, dwi'n falch roeddwn yn ddigon dewr i wneud peth fel 'ma!

Ar ôl cyfweliadau roeddem yn eistedd a siarad. A recordio! Roedd hetiau tradoddiadol ar gael, felly roedd rhai yn fwy na fodlon i cael eiu recordio efo hetiau ar eu pennau. (Ie, fi hefyd!) Ac roedd 'na cystadleuaeth ar gyfer cennin. Efo gwobrau! Yn anffodus, doedd gen i ddim un (wel, ar wahân i un a oedd yn fy rhewgell, un mewn darnau), ond llongyfarchiadau mawr i'r enillwraig!

Bydd 'na sianel Cymraeg newydd ar gael ar lein yn fuan a dwi'n credu bydd neithiwr yn rhan o ffilm ddogfen am fy ninas sy'n cael ei baratoi gan fy hathrawon. Mewn gwirionedd, dwi'n edrych ymlaen i'w gweld!

Hwyl am y tro.


czwartek, 1 marca 2012

Dewi

Yr unig beth galla i siarad amdano heddiw ydy, wrth gwrs, Gŵyl Dewi Sant!

Ydy Dewi yn arbennig imi mewn unrhyw ffordd? Wel, oherwydd mod i'n rhan o'r Adran Geltaidd, dan ni'n dathlu'r Gŵyl bob blwyddyn a chael 'hwyl a sbri' bob tro. Mae symbolau o gennin a chennin Bedr yn golygu RHYWBETH inni i gyd, hyd y gwn i, ac felly mae'n rhaid iddynt fod yn arbennig.
Mae'n drueni nad ydy Dewi mor boblogaidd a Padrig y dyddiau hyn, ond efallai byddai fodd i'w hyrwyddo yn fwy llwyddianus yn y dyfodol?

Ac yn y cyfamser: Gŵyl Dewi Sant hapus i bawb!


                                                      ffynhonnell : www.saintdavid.org.uk