wtorek, 3 lipca 2012

Cymru, tri diwrnod cyntaf

Fel rydych chi i gyd yn gwybod yn barod, rydw i yng Nghymru, yn Aberystwyth. Cyrhaeddais y lle ddydd Sadwrn, ond doedd gen i ddim amser i ysgrifennu unrhyw beth, roedd cymaint i’w wneud! Felly, i ddechrau, mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn gorhapus imi allu dod yma. Ers imi ddechrau fy astudiaethau, roedd Cymru yn fy ngalw i, ac rŵan, o’r diwedd, dwi wedi ateb:)

Roedd bore Sadwrn yn boeth dros ben llestri ym Mhoznan, felly efallai roeddwn yn disgwyl yr un peth yn Lloegr ac wedyn yng Nghymru? Pwy a ŵyr? Ond na, er nad oedd y tywydd yn ddelfrydol, doedd dim yn bwrw glaw (bron o gwbl, dim ond cawodau byr(ion)) ac roedd yn eithaf cynnes. Ar ôl gadael maes awyr John Lennon, aethom i ‘r Orsaf, cawsom cinio blasus iawn (diolch i’n hôl-athro Gwyddeleg) ac wedyn cawsom drên (wel, tri thrên) i Aberystwyth. Peth annisgwyl, doedd yna ddim o bobl ar strydoedd (bron o gwbl) Pam, dwi’n gofyn? Tybed beth byddai pobl yn ei wneud nos Sadwrn yn Aberystwyth? Ac o achos hynny es innau a’m ffrind ar goll heb un berson i ofyn wrtho/i. Yn ffodus inni, llwyddon ni ddarllen ein map yn effeithiol a daethom o hyd i’n lle. Mae gan ein host wybodaeth sylfaenol y Gymraeg, ac mae ei gariad yn dod o’r Gogledd, felly mae hi yn siarad. Ond ar ddechrau doedd hi ddim yn rhy fodlon i siarad. Rŵan, mae pethau’n well, gan cychwynnodd dechrau sgyrsiau â ni yn ei hiaith hi (datblygiad pwysig!)

Mae’n eithaf drist nad ydw i’n gallu clywed llawer o’r Gymraeg ar strydoedd (er dywedwyd wrthyf bod rhan sylweddol o bobl leol yn siarad) Yn ffodus, byddaf yn clywed mwy yn swyddfa fy ngwaith (dwi’n hoff ohono a phobl sy’n gweithio fan yma, wir i chi!) A dwi’n gwerthfawrogi’r ffaith byddwn yn gallu ysgrifennu mwy nag arfer, hwyl a sbri ydy hynny! Y peth nesaf ydy’r ffaith fy mod wedi cael sawl albwm imi wrando arnynt, dwi’n arbennig o hapus oherwydd albymau Fflur Dafydd a’i band, a dwi’n edrych ymlaen i’w clywedpob un ohonynt!

Beth arall? Wel, yn gyntaf hoffwn gael tywydd gwell (nid ydy hi’n rhy ddrwg, ond efallai byddai mwy o haul yn syniad da) a’r hyn a addawyd imi gan Erasmws cas. Fel arall, mae’n berffaith. Diolch yn fawr!

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz