piątek, 27 kwietnia 2012

Newydd ddechrau

Dwi wedi dechrau cyfeithu llyfr Fflur Dafydd, jest fel soniais o'r blaen. Mae hyn yn ymddangos yn eithaf hawdd i'w wneud mewn ffordd! Ar ôl imi orffen y bennod gyntaf, gallaf weld nad oedd gen i angen meddwl am eiriau Saesneg (dim ond ychydig ohonynt efallai, un neu ddau y dudalen), mae popeth yn mynd yn syth o'r Gymraeg i'r Bwyleg. Trawiadol dros ben llestri :)

Fodd bynnag, dwi'n gwybod mai ffordd hir sydd y tu blaen imi a llawer o waith i'w wneud. Gallai'r cyfieithu fod yn arbennig o galed a chymhleth. Fel enghraifft, hwyrach bydd gen i broblem efo tafodieithoedd ac yr ffaith bod cymeriadau'n defnyddio mathau gwahanol o arddullau, mae'r Gymraeg y rhai ohonynt ychydig yn fwy safonol, tra bod eraill yn Seisnegeidio eu llafar ac ar hyn o bryd dwi ddim yn sicr sut i drosglwyddo hynny i'r Bwyleg.

A chyda llaw, efallai hoffai unrhyw un roi ychydig o gymorth imi efo cywiriadau a golygu? Dwi'n teimlo bod fy mrawdegau yn swnio ychydig yn drwsgl weithiau, ella fy mod i'n cyfieithu'n rhy llythyrennol? Byddd yn rhaid imi ddatblygu fy sgiliau (gan does gen i ddim digon ohonynt, dwi erioed wedi ceisio cyfieithu llyfrau!)

Wel, gawn ni weld sut mae popeth yn mynd. Gobeithio'r gorau!

środa, 25 kwietnia 2012

Llyfrau!

Dwi ddim yn sicr pe byddai y rhai ydwi'n siarad amdanynt yn darllen hyn, ond hoffwn roi diolch i bawb a oedd mor neis i rannu eu llyfrau â ni. (Nid yn unig pobl breifat, ond hefyd gwasgiau a sefydliadau Cymreig).

Mae silff llyfrau Cymraeg yn tyfu mor gyflym ar hyn o bryd ac mae yna hyd yn oed mwy o lyfrau i'w rhoi i'r llyfrgellwyr (sydd ddim yn fodlon iawn i dderbyn cymaint ohonynt: dylech weld eu hwynebau weithiau!). Maen nhw'n amrywiol iawn ac dwi'n falch o hyn (fel darllenwraig frwd). Dwi eisoes wedi benthyca rhai ohonynt a gobeithio byddent yn ddiddorol iawn. Wel, dwi'n eithaf sicr y byddent, gan fod un ohonynt am Feibion Glyndŵr ac un am Gruffydd ap Cynan, dwi'n credu. Dwi'n hoff o hanes, felly rhywbeth perffaith imi.

Iawn, dim ond nodyn byr y tro yma, ymdiheuriadau nad ydwi'n ysgrifennu mor aml y dyddiau hyn, ond dwi'n bwriadu gwneud hyn dros yr wythnos nesaf, bydd gen i lawer o amser sbâr.

Hwyl am y tro!

środa, 18 kwietnia 2012

Cyfres Cewri Asia

Roeddwn yn meddwl am ddechrau cyflwyno fy hoff gerddorion yn y fan yma am wythnosau nawr, ac oherwydd gwnes i gyflwyniad am fy hoff fand ar gyfer gwersi, pam beidio â'i roi i'm blog hefyd? Dwi'n eithaf sicr doeddwn ddim yn rhy lwyddianus wrth gyflwyno ddoe (gan anghofiais am lawer o bethau roeddwn am eu dweud), felly cylfe da i weithio allan beth oeddwn yn siarad amdano bydd hwn!

"I ddechrau, gadewch imi ddweud bod siarad am gerddoriaeth yn gymhleth iawn, gan fod cerddoriaeth i fagu teimladau, nid meddyliau, yn fy marn i. Fel y canlyniad dylai pobl deimlo, nid meddwl wrth wrando, ac mae’n anodd disgrifio beth mae pobl yn ei deimlo, onid ydy? Felly, dwi ddim am berswadio unrhyw un ohonoch chi, ond hoffwn eich gwneud chi’n teimlo rhywbeth o leiaf tebyg i finnau, a gwerthfawrogi'r un fath o gerddoriaeth rydw innau yn ei gwerthfawrogi.

Fel mae o leiaf rhai ohonoch chi’n gwybod yn barod, The Corrs ydy fy hoff fand yn y byd, a dwi’n credu mod i’n eithaf gwybodus amdanynt. Felly, mae The Corrs yn fand sy’n cynnwys tair chwaer, Sharon, Caroline ac Andrea a’u brawd, Jim. Hefyd, yn ystod cyngherddau, byddai dau ddyn arall yn chwarae efo nhw, sef Keith Duffy ac Anto Drennan. Mae pob un ohonynt yn gallu chwarae offerynnau gwahanol. Maen nhw i gyd yn chwarae piano, ac ar wahân i hyn, mae Sharon yn gallu chwarae ffidl a gitâr, Caroline drymiau a bodhrán, Andrea tin whistle (sy’n ffliwt fach), a Jim mathau gwahanol o gitâr.

Penderfynon nhw i greu grŵp fel teulu ym 1991 a recordion eu halbwm cyntaf, Forgiven, Not Forgotten ym 1995. Gadewch imi ddangos rhywfaint o ganeuon o’r albwm hwn: Heaven Knows (dwi'n credu hon ydy fy hoff un o'r albwm)RunawayThe Right Time, Leave Me AloneErin Shore. Mae’n ymddengys roedd pobl wrth eu moddau gwrando ar ganeuon The Corrs, gan ddaethon nhw’n boblogaidd iawn ledled Ewrop a, peth diddorol, Siapan (fel Jakokoyak (fideo Eira!)). 

Rhodd hyn yn hyder mawr iddynt a recordion nhw eu hail albwm, Talk On Corners, ym 1997, efo eithaf llawer o ganeuon mawr imi: Only When I Sleep, What Can I Do, So Young, Hopelessly Addicted (ffefryn!), I Never Loved You Anyway. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth y teulu i Wlad Pwyl hefyd, roedden nhw’n chwarae yn Sopot yn ystod cyfres cyngherddau arbennig yr haf. Roedd yn bwrw glaw a chwynodd Jim bod dŵr ymhob man ac ar ei allweddi hefyd.

Wedyn, yn dilyn eu llwyddiant enfawr o gwmpas y byd, daeth recordiad Unlpugged (Di-wifr), rhywbeth sy’n ar gael i bobl fwyaf llwyddiannus. Dwi’n hoffi Unplugged oherwydd mod i’n hoff iawn o offerynnau llinyn. Gadewch imi gyflwyno ychydig o ganeuon o yna: No Frontiers (yn hollol wych imi)What Can I Do (fersiwn gwell o'r un albwm!), Everybody Hurts (dwi ddim yn hoff o fersiynau cover, ond mae hyn yn ardderchog).

Yn fuan wedyn, digwyddodd trasiedi (neu drychineb) enfawr yn y teulu, marw a wnaeth eu mam. Er mwyn ymdopi â’u tristwch, recordion nhw albwm arall, In Blue (eu halbwm gwaethaf yn fy marn i, ond efo eu hit enwocaf, Breathless, ond hefyd rhai o ganeuon gwell na hyn: At Your Side (acwstig), No Mo Cry (acwstig), Rebel Heart, Rain (geiriau gorau Shron!), Give It All Up (cân eithaf gwael ond eithaf pleserus hefyd).

Yn 2004, recordiodd The Corrs albwm arall, Borrowed Heaven, ac roedd hwn yn fy hoff albwm am amser hir. Summer Sunshine oedd y gan a ddechreuodd fy antur The Corrs (a dwi'n cofio roeddwn ei recordio ymhob man!), ond mae llawer o ganeuon da iawn ar yr albwm: Long Night, Confidence For Quiet, Baby Be Brave (dwi'n hoffi rhythm ynganiad yma).

Ac wedyn, yn 2005, recordion nhw eu halbwm mwyaf newydd hyd yn hyn, Home. Dyma fy hoff albwm ar hyn o bryd, oherwydd penderfynnon nhw recordio eu fersiynau eu hunain o ganeuon Gwyddelig a oedd yn eu hysbrydoli drwy flynyddoedd diwethaf. Felly, dyma flas yr albwm My Lagan Love, Heart Like A Wheel, Old Town, Dimming Of The DayBríd Óg Ní Mhaille.

O hyn ymlaen, dydyn nhw ddim yn recordio fel band, ond mae Sharon ac Andrea wedi cychwyn eu cynlluniau cerddorol eu hunain. Os hoffet wybod, mae y ferch gyntaf wedi recordio un albwm (It’s Not A Dream) ac yr ail ferch dau (Ten Feet High a Lifelines). Yn gyffredinol, dydyn nhw ddim yn gymaint â beth fyddai The Corrs yn ei recordio, yn anffodus, ond mae yna sawl cân sy’n werth eu clywed, yn enwedig y rhai a chafodd eu recordio gan Andrea, mae hi’n gallu ysgrifennu’n dda! Does neb yn gwybod ai dôn nhw nôl neu beidio. Mae nhw wedi credu teuluoedd eu hunain, mae ganddynt feibion, merched a chariadon, felly dwi’n sicr bydd yn well ganddynt ganolbwyntio ar hyn. Ond, fel pob ffan The Corrs, dwi’n aros yn astud.

Iawn, ar ôl imi roi ychydig o wybodaeth am eu hanes a blas o’u cerddoriaeth i chi, gadewch imi ddweud pam rydwi mor hoff ohonyn nhw (er gwaethaf mae hyn yn andros o anodd imi!). Wel, yn gyntaf, mae’r math o gerddoriaeth roedden nhw’n ei chreu yn apelio ataf fi. Roedden nhw’n ceisio cymysgu arddulliau cerddoriaeth, felly mae yna ychydig o roc, pop, reggae, soul, cerddoriaeth côr a thraddodiadol. Doedden nhw ddim yn ofni defnyddio offerynnau traddodiadol wrth chwarae a hyn a wnaeth nhw’n eithaf unigryw. Hefyd, dwi’n gwerthfawrogi eu parodrwydd i weithio’n galed er mwyn llwyddo; pan oedden nhw dal yn gweithio, byddai nhw’n rhoi cannoedd o gyngherddau yn flynyddol, ac roedden nhw i gyd yn fywiog a llawen. At hynny, roedd The Corrs yn fwy na pharod i roi cymorth i wledydd y trydydd byd a phres i bobl dlawd. A dwi’n sicr roedden nhw’n bwydo adar bach a helpu hen wragedd croesi lôn hefyd (i ddeall, gwrandewch am gân Pam mor neis 'di'r byd! gan Neu! Unrhyw Declyn Arall). Fel y canlyniad, rhodd un ohonynt, sef y Frenhines, teitlau arbennig i’r teulu Corrs. Mae nhw’n foneddigesau a boneddigion rŵan. A hefyd, dwi’n eithaf hoff o’u synnwyr digrifwch. dwy ffilm parodi ddoniol iawn (imi), felly, os oes hoffech eu gweld... French & Saunders a Ant & Dec."

Dwi’n gobeithio roeddech chi’n mwynhau. Diolch am eich sylw, pawb!

środa, 11 kwietnia 2012

Dewisiadau yr Adran Geltaidd

Dyma beth mae pobl yr Adran yn meddwl am Gymru a Chymry. Mwynhewch!

Sianel 62 - Cymry Oddi Carte': Gwlad Pwyl (Rhan 3)

Fy Mhasg i eleni

Tybed sut gallai dyddiau fod yn dawel ac yn brysur ar yr un pryd. Oherwydd roedd fy wythnos ddiwethaf fel yma: er roedd gen i lawer o amser sbâr, roedd gen i gyfle i ymlacio, i wneud beth bynnag roeddwn ei eisiau, roedd yn rhaid imi weithio yn eithaf galed! Roeddwn yn siopa o leiaf tair gwaith y dydd, roeddwn yn glanhau fy nhŷ, fy ystafell (gwaith caled dros ben!), roeddwn yn helpu paratoi bwyd, ac roedd yn rhaid imi fynd i’m gwaith go iawn hefyd... Llawer o bethau i’w gwneud!

Beth bynnag, doedd ‘na ddim brys go iawn (wel, roedd amser yn brysur iawn, iawn yn ystod dau ddiwrnod cyn y Pasg, ond fel arall...), felly roeddem gallu gwneud pethau â phleser go iawn (ar wahân i lanhau, wrth gwrs). Felly: roeddem wedi paratoi saladau blasus, fel yr un efo cig iâr, olewydd, letys, ciwcwmbr, a saws garlleg wedi’i gymysgu â iogwrt. Hefyd, roedd fy mam a chwaer wedi pobi cacen gaws ac un gacen arbennig efo hufen fanila a’r blas advocat. Yn anffodus imi, dwi wedi addo i beidio â bwyta pethau melys i fis Mehefin. Felly, doeddwn i ddim wedi eu bwyta. Bechod! Nôl i bethau normal i’w bwyta: roeddem yn bwyta bigos ardderchog gan fy mam. Argymhellaf y bwyd hwn i bawb (gallai fod efo neu heb gig, felly dylai llysieuwyr fod yn fodlon i’w fwyta hefyd!).

Wrth gwrs, nid yr amser bwyta yn unig ydy’r Pasg. Ymwelom â’n ffrindiau a theulu ni hefyd. Yn gyntaf, aethom i ffrind fy mam, fy modryb a’i merch. Dwi’n hoffi mynd i’w tŷ yn fawr iawn, roedd fy mam a’m modryb yn ffrindiau â’i gilydd ers degawdau, o leiaf chwarter cant o flynyddoedd a dwi innau a’m chwaer yn ffrindiau efo’i merch o’m genedigaeth. Dan ni’n cael hwyl a sbri bob tro rydyn ni’n ymweld â’i gilydd.

Wedyn, ddydd Llun, aethon ni i’m nain a thaid i ymweld â gweddill y teulu. Yn anffodus, dim ond un cefndir a oedd yno. Mae gen i dri ohonynt, ond dwi ddim yn cael llawer o gyfleoedd i’w gweld y dyddiau hyn, er eu bod nhw’n byw ym Mhoznań. Ychydig yn rhyfedd, onid ydy? Ond fel arall, roedd ein ymweliad yn eithaf bleserus. Roeddem yn siarad, yn chwerthin ac yn cael amser da, dwi’n credu. Trueni na chawsom gyfle i fynd am dro, ond doedd y tywydd ddim yn gyfeillgar iawn ac rydyn ni i gyd yn hoffi cynhesrwydd yn fawr iawn.

Mae’r Pasg wedi dod i ben. Yn rhy gyflym imi, felly dwi’n edrych ymlaen i’r gwyliau nesaf!

niedziela, 8 kwietnia 2012

Dymuniadau Pasg


Does gen i ddim syniad sut i roi dymuniadau yn y Gymraeg, yn arbennig dymuniadau Pasg, felly dwi’n credu bydd yn rhaid imi ddefnyddio syniadau Pwylaidd yn y fan yma.

Felly: dymuniadau gorau yn y byd i chi, mwynhewch eich amser efo’ch teuluoedd, bwytewch lawer (bydd ‘na amser i golli pwys [yn hwyrach] mae’r gwanwyn wedi dod!), siaredwch am bethau gwirion a difrifol, ymlaciwch cyn eich dychweliad i’ch swyddfeydd/ ysgolion/ prifysgolion, a gochelwch rhag dŵr yfory! Neu beidiwch, mae taflu dŵr ar ei gilydd yn hwyl!

Hwyl fawr a dwi'n sicr bydd eich bigos, wyau a chacenau yn flasus ac eich cwningod a defaid yn hwylius!


ffynhonnell: http://www.urdd.net/Cyffredinol/Cardiau/html/Pasg1_small.jpg

środa, 4 kwietnia 2012

Awydd i gyfieithu


Unwaith, dywedodd Angharad Tomos nad ydy’n rhy fodlon i’w llyfrau gael eu cyfieithu i’r Saesneg. Serch hynny, mae yna gwpl ohonynt ar gael yn yr iaith hon yn awr. Tybed pe byddai’n bosibl imi gael ei chaniatâd i gyfieithu o leiaf un o’i llyfrau i’r Bwyleg: fel soniais o’r blaen (er nad ydwi’n sicr naill ai yn y fan yma neu ar y record), dwi’n hoff iawn o’r llyfrau Angharad Tomos; dwi wedi darllen tri neu bedwar ohonynt, a bron â phob un o’r cyfres Rwdlan. Fy hoff lyfr Mrs. Tomos ydy ‘Wele’n Gwawrio’ a dyma’r llyfr hoffwn ei gyfieithu, mae'n eithaf arbennig. Neu 'Titrwm'! Serch hynny, dydwi ddim yn gwybod pe byddwn yn gallu trosglwyddo ei hiaith wych. Ac dwi’n credu bydd yn angenrheidiol i gynnwys adnod arbennig efo disgrifiadau o bethau Cymreig fel Mabinogi (dwi ddim yn meddwl bod yna lawer o bobl yng Ngwlad Pwyl a byddai yn gyfarwyd â diwylliant Cymru…

Un llyfr arall hoffwn ei roi i bobl Gwlad Pwyl ydy ‘Y Llyfrgell’ gan Fflur Dafydd. Tybed beth ddyweddai Mrs. Dafydd pe gofynnwn iddi am ei chaniatâd hi. Dwi’n fwy na siŵr ei fod y llyfr hwn yn  deilwng ei gyflwyno i ddarllenwyr gwledydd eraill! Ond, unwaith eto, mae yna lawer a llawer o elfennau Cymreig yn benodol: y llyfrgell yn Aberystwyth, beirdd Cymru, pobl wallgof… (na, mae’r peth diwethaf yn gyffredin, mae llawer o bobl wallgof yng Ngwlad Pwyl hefyd. Ffaith.)

Gawn ni weld, efallai byddwn yn gallu dechrau fy nghynllun arbennig yn fuan!

wtorek, 3 kwietnia 2012

Profiad Erasmws? Efallai!

Gwych, mae fy nogfennau ar gyfer Erasmws yn disgwyl am bobl garedig a fydd yn fodlon i'w gweld a'u cymeradwyo. Dydwi ddim yn sicr os bydd 'na unrhyw fodd imi gael eu grant (rhyw fath o ysgoloriaeth), dwi'n ofni fydd fy nghyfartaledd gradd ddim yn ddigon wrth ei gymharu â'r gweddill (safonau uchel ein prifysgol...), welwch felly: bydd yn rhaid imi groesi fy mysedd ac byddwn yn gwerthfawrogi eich cymorth ysbrydol hefyd :) 

Gawn ni weld, mae popeth yn bosibl yn ddamcaniaethol! Gallech ddychmygu fy ysfa i fynd i Gymru, onid gallech? Roeddwn yn siarad â'm ffrind ar ein ffordd i'n llyfrgell ni heddiw. Cytunon ni bydd ein bywydau yn drist a gwag heb y Gymraeg, wir i chi! Dwi ddim yn gallu dychmygu fy hun heb fy nysgu'r iaith hon ar hyn o bryd. Ond roeddwn yn meddwl am ddechrau astudiaethau cyfraith cyn imi benderfynu ar IFA, dwi ddim yn gallu coelio hyn! Er hynny, dwi'n credu fy mod wedi gwneud penderfyniad cywir, dwi'n gwneud y peth bod gen i ddiddordeb ynddo, da!

Ynglyn â'r Erasmws eto, roedd gennym sawl problem ddydd Gwener, mae pobl yng Ngwlad Pwyl yn hoff iawn iawn o fiwrocratiaeth. Roedd yn rhaid imi fynd i'r swyddfa Erasmws bedair gwaith mewn un awr (!). Yn gyntaf, roedd yn rhaid imi newid un dudalen o'm ffurflen gais, wedyn roedd y ddwy ddynes yn y swydd wedi eu drysu nad oedd gan ein dogfennau stampiau swyddogol (er nad oedd 'na stampiau yng Nghymru, o gwbl), ac wedyn roedd yn rhaid imi roi llythyr personol i'm hathrawes oherwydd fe'i gafodd ei ysgrifennu ar bapur y cwmni. Waw. Ond, yn y diwedd, fel dywedais, mae ein hymdrecchion wedi llwyddo.

Iawn, digon am heddiw, ymddiheuriadau nad ydwi'n ysgrifennu mor aml, byddwn yn ceisio ymddiwygio fy hun!

Hwyl fawr a diolch am eich sylw!